Atodiad B: Canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig gan ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor ar ein gwefan fel ei bod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus.  Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Bwriad y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n llunio gwybodaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

-     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir - gan osgoi jargon diangen

-     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12

-     Defnyddiwch ffont sans serif clir, fel Lucida Sans 

-     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau

-     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll

-     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu

 

Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu pdf, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau neu’n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.